17 January 2007

S4C yn datgelu eu delwedd brand newydd

Mae S4C yn cyflwyno delwedd brand newdd fydd yn arwain y Sianel at yr oes ddigidol-yn-unig a thu hwnt. Mae’r brand newydd, a lansir ar 18 Ionawr, yn cyflwyno diwyg ac agwedd gyfoes a fydd i’w gweld ar wasanaethau S4C ar yr awyr, oddi ar yr awyr ac ar-lein. Mae’n cymryd lle'r brand presennol a ddefnyddiwyd ers 1993.